Lleoliad: Hybrid - Ystafell Bwyllgora 4
Tŷ Hywel a fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 9 Tachwedd 2023
Amser:
09.30 -
11.36
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13544
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Peredur Owen Griffiths AS (Cadeirydd) Peter Fox AS Mike Hedges AS Rhianon Passmore AS |
Tystion: |
Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru, Archwilio Dr Kathryn Chamberlain, Archwilio Cymru Ann-Marie Harkin, Archwilio Cymru Kevin Thomas, Archwilio Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Owain Roberts (Clerc) Cerian Jones (Ail Glerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Owen Holzinger (Ymchwilydd) |
Cofrestru (09.00-09.15)
Rhag-gyfarfod Preifat (09.15-09.30)
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid.
2 Papurau i'w nodi
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2.1 PTN 1 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Adolygiad Annibynnol o'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi - 18 Hydref 2023
2.2 PTN 2 - Llythyr gan Anabledd Cymru: Cymorth ariannol penodol i bobl anabl yng Nghyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25 - 19 Hydref 2023
2.3 PTN 3 - Llythyr gan Fwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd ar Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): Cynllun Pensiwn yr Aelodau - 23 Hydref 2023
2.4 PTN 4 - Gwybodaeth ychwanegol gan Gomisiwn y Senedd mewn perthynas â Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) - 31 Hydref 2023
2.5 PTN 5 - Llythyr gan Archwilio Cymru at Gadeirydd y Pwyllgor Biliau Diwygio: Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) - 3 Tachwedd 2023
2.6 PTN 6 - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) - 3 Tachwedd 2023
3 Archwilio Cymru - Craffu ar Amcangyfrif 2024-25 a'r Adroddiad Interim 2023-24: Sesiwn dystiolaeth
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru; Cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru; a swyddogion Archwilio Cymru ar Amcangyfrif 2024-25 ac Adroddiad Interim 2023-24 Archwilio Cymru.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Archwilio Cymru - Craffu ar Amcangyfrif 2024-25 a'r Adroddiad Interim 2023-24: Trafod y dystiolaeth
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
6 Protocol Proses y Gyllideb
6.1 Trafododd y Pwyllgor bapur ar Brotocol Proses y Gyllideb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ac ymgynghori â'r Cyrff a Ariennir yn Uniongyrchol.
7 Sefydlwyd Fforwm Rhyngseneddol y Pwyllgorau Cyllid: Diweddariad
7.1 Trafododd y Pwyllgor y papur ar Fforwm Rhyngseneddol y Pwyllgorau Cyllid.